Europeana

Europeana
Enghraifft o'r canlynolllyfrgell ddigidol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu20 Tachwedd 2008 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysEuropeana 1914-1918, Europeana Food and Drink, Europeana Network for Ancient Greek and Latin Epigraphy Edit this on Wikidata
GweithredwrEuropeana Edit this on Wikidata
PencadlysLlyfrgell Frenhinol yr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.europeana.eu Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Europeana.eu yn borth rhyngrwyd sy'n gweithredu fel rhyngwyneb i filiynau o lyfrau, lluniau, ffilmiau a gwrthrychau amgueddfa, mae'r cofnodion archifol hyn wedi eu digido ledled Ewrop. Mae rhai o'r uchafbwyntiau ar Europeana yn cynnwys y Mona Lisa gan Leonardo da Vinci, "Merch gyda chlustlws perlog" gan Johannes Vermeer, gwaith Charles Darwin ac Isaac Newton a cherddoriaeth Wolfgang Amadeus Mozart.

Mae tua 1500 o sefydliadau ledled Ewrop wedi cyfrannu at Europeana. Mae rhain yn amrywio o enwau mawr rhyngwladol fel y Rijksmuseum yn Amsterdam, y Llyfrgell Brydeinig, a'r Louvre i'r archifau rhanbarthol ac amgueddfeydd lleol o bob aelod o'r UE. Gyda'i gilydd, mae eu casgliadau'n galluogi defnyddwyr i archwilio treftadaeth ddiwylliannol a gwyddonol Ewrop o gynhanes i'r dydd modern.


Developed by StudentB